Cyfryngwyr a chyd-fuddsoddwyr

Rydym yn gweithio'n agos gydag ystod o ganolwyr a chyd-fuddsoddwyr gan helpu eu cleientiaid i gael y cyllid sydd ei angen arnynt.

Gallwn weithio gyda chi a'ch cleientiaid er mwyn:

Cyfryngwyr a chyd-fuddsoddwyr
£410.8m

dyma werth ein cronfeydd dan reolaeth.

  • Prynu offer newydd
  • Prynu, ehangu neu ddodrefnu eiddo
  • Datblygu a masnacheiddio cynhyrchion newydd
  • Recriwtio staff
  • Ehangu i farchnadoedd newydd
  • Ariannu cyfalaf gweithio
  • Ariannu cytundebau newydd
  • Datblygu eiddo preswyl a masnachol

Ymgynghorwyr cwmni

Rydym yn gweithio'n agos ar ystod o fargeinion gyda chyfrifwyr, ymgynghorwyr busnes, cynghorwyr ariannol, arianwyr corfforaethol a chyfreithwyr. Mae gweithio â  ni yn cynnwys y manteision canlynol:

  • Ein gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol - Roedd 97% o’r cwsmeriaid a holwyd yn hapus/fodlon gyda'r gwasanaeth a gawsant gennym ni*
  • Gallwn fod yn hyblyg gyda'n telerau i weddu i anghenion y busnes
  • Rydym yn cysylltu eich cleientiaid â'n portffolio o berchnogion busnes o'r un meddylfryd
  • Rydym yn rhannu ein gwybodaeth am y farchnad trwy seminarau wedi'u teilwra ar eich cyfer chi a'ch cleientiaid
  • Mae ein tîm portffolio ymroddedig yn darparu cefnogaeth barhaus ar ôl y buddsoddiad, gan ychwanegu gwerth i’ch cleientiaid  

*yn seiliedig ar 66 o arolygon adborth cwsmeriaid a gofnodwyd rhwng Tachwedd 2021 a Thachwedd 2023

 

Banciau a chyllidwyr eraill

Rydym yn gyd-fuddsoddwr ymroddedig gydag agwedd gadarnhaol.

  • Gallwn gyd-ariannu bargeinion benthyciadau lle nad yw eich gofynion credyd yn cael eu bodloni
  • Darparu cyllid i fynd ochr yn ochr ag ecwiti
  • Rydym yn hyblyg a gallwn weithio gyda chi i strwythuro bargen sy'n gweithio i chi a'ch cwsmer
  • Byddwch yn gallu cynnal eich perthynas â'r cwsmer gan gynnwys y gwasanaethau bancio
  • Mae ein tîm portffolio ymroddedig yn gweithio gyda chi a'ch cwsmer i ddarparu cefnogaeth barhaus

Mae ein perthynas â’r Partneriaethau Menter Lleol a’r Hybiau Twf yn golygu y gallwn weithio ochr yn ochr â chymorth arall megis grantiau.

 

Cysylltwch â ni

Os ydych chi'n awyddus i helpu'ch cwsmeriaid i sicrhau'r cyllid sydd ei angen arnynt, cysylltwch â ni a byddwn yn eich rhoi mewn cysylltiad ag un o'n tîm buddsoddi.