Diweddariad pwysig: Mae angen cwblhau pob cais erbyn hanner nos 16 Medi 2025 os ydych chi am ddefnyddio ein system ymgeisio bresennol. Darllen mwy

Porth Ceisiadau Newydd

Mae ein porth cwsmeriaid newydd yn lansio ar 17/09/2025.

Os ydych chi'n gweithio ar gais yn ein system bresennol, bydd angen i chi ei gyflwyno cyn hanner nos ar 16 Medi 2025.

Os na fyddwch chi'n gorffen eich cais presennol cyn y newid, bydd angen i chi ddechrau o'r newydd yn y system newydd. Yn anffodus, ni allwn gario unrhyw geisiadau anghyflawn drosodd.


Beth Sy'n Digwydd i Geisiadau? 

Fel rhan o drawsnewidiad digidol y FW Capital, rydym yn lansio porth cwsmeriaid newydd ar gyfer ceisiadau benthyciad ac ecwiti. Bydd y system newydd hon yn disodli'r broses ymgeisio bresennol. 

 

Manteision y Porth Newydd 

Mynediad 24/7: Cyrchwch eich ymholiadau a'ch ceisiadau gweithredol unrhyw bryd, ddydd neu nos, er hwylustod i chi.

Gwell cyfathrebu: Byddwch yn derbyn eich holl negeseuon, diweddariadau a hysbysiadau mewn un lleoliad canolog gan sicrhau na fyddwch byth yn colli gwybodaeth bwysig.

Trefn olrhain statws glir: Byddwch yn gallu gwirio statws eich ymholiad neu gais yn rheolaidd er mwyn cael y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed. Gallwch weld enw eich gweithiwr portffolio pwrpasol ac unrhyw ddiweddariadau neu newidiadau i'ch ymholiad neu statws eich cais.

Cymorth ar-lein: Cyrchwch ein Canolfan Gymorth a chefnogaeth bwrpasol ar gyfer unrhyw ymholiadau neu faterion y gallech ddod ar eu traws gyda'r porth.

Diogel a phreifat: Gallwch gael tawelwch meddwl bod eich gwybodaeth bersonol ac ariannol yn cael ei chadw'n ddiogel ac yn gyfrifol. Rydym yn defnyddio mesurau diogelu, gan gynnwys amgryptio, i atal mynediad heb awdurdod at eich gwybodaeth bersonol. Gweler ein Polisi Preifatrwydd am ragor o fanylion.

 

Beth Sy'n Digwydd i Fy Hen Gyfrif? 

Bydd angen i bob defnyddiwr greu cyfrif newydd yn y porth newydd.

Ar ôl iddo gael ei lansio ni fydd eich hen gyfrif yn hygyrch mwyach, a bydd ei ddata’n cael ei ddileu o’n system dros amser, yn unol â rheoliadau GDPR.

Ni fydd unrhyw ymholiadau na cheisiadau presennol yn cael eu symud i'r porth newydd.

 

Beth os nad wyf wedi gorffen fy nghais presennol? 

Os nad ydych wedi cwblhau eich cais presennol cyn y lansiad, bydd angen i chi ddechrau un newydd yn y porth newydd. Ni fydd unrhyw ddata o'ch cais presennol yn cael ei drosglwyddo, felly rydym yn argymell yn gryf eich bod yn ei orffen cyn gynted â phosibl er mwyn osgoi unrhyw aflonyddwch.

 

Angen Help? 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y porth newydd, cysylltwch â ni yma.