Diweddariad pwysig: Mae angen cwblhau pob cais erbyn hanner nos 16 Medi 2025 os ydych chi am ddefnyddio ein system ymgeisio bresennol. Darllen mwy

FW Capital

Mae gan BBaChau botensial mawr yr ydym am ei ddatgloi.

Yr hyn a wnawn

Mae FW Capital yn darparu cyllid hyblyg i fusnesau deinamig yng Ngogledd a De Orllewin Lloegr yn ogystal â Chymru gyfan.

Rydym yn arbenigo mewn cyllid BBaChau ac rydym yn darparu nifer o gronfeydd buddsoddi a sefydlwyd i helpu busnesau i ffynnu.

Gallwn gefnogi busnesau yn y ffyrdd canlynol:

  • Benthyciadau hyd at £2m i gefnogi twf ac ehangu.
  • Benthyciadau datblygu eiddo o £250,000 i £7 miliwn.

Ewch i weld ein hadran Cael cyllid busnes i weld yr ystod o gyllid sydd ar gael gennym.

Hanes cryf

Rydym wedi bod yn darparu cyllid ers 2010, gan adeiladu hanes cryf o helpu busnesau lleol i gael gafael ar y cyfalaf sydd ei angen arnynt.

Yn y cyfnod hwnnw rydym wedi llwyddo i ddarparu cyllid gan arwain at chwistrelliad o £382 miliwn o arian parod i economi'r gogledd.

Rydym yn gweithio’n agos gyda Phartneriaethau Menter Lleol, asiantaethau cymorth busnes, cyfryngwyr a chyllidwyr eraill ac mae gennym rwydwaith busnes sefydledig ledled y DU.

Cronfeydd rydym yn eu rheoli

I gael rhagor o wybodaeth am yr ystod o gronfeydd rydym yn eu rheoli, gweler ein tudalen cronfeydd rydym yn eu rheoli.

Rhan o Grŵp BDC

Mae FW Capital yn rhan o Grŵp BDC (Grŵp Cyllid Cymru gynt).

Mae Grŵp Banc Datblygu Cymru yn cynnwys Banc Datblygu Cymru ac Angylion Buddsoddi Cymru.