Meini prawf

Cyn i chi ddechrau eich cais, gwnewch yn siŵr bod eich busnes yn bodloni meini prawf ein cronfeydd.

Meini prawf y gronfa

Lleoliad

Gallwn fenthyca i fusnesau yn rhanbarth CBPG II, gan ganolbwyntio ar:

  • Sir Gaer

  • Cumbria

  • Manceinion Fwyaf

  • Swydd Gaerhirfryn

  • Glannau Mersi

Math o fusnes

At ddiben Northern Powerhouse Investment Fund II, mae busnesau bach a chanolig (BBaChau) yn cael eu dosbarthu fel unrhyw endid sy’n gymwys fel endid bach, micro neu ganolig yn unol ag adrannau 382, 384A a 465 o Ddeddf Cwmnïau 2006:

I gymhwyso fel BBaCh, rhaid i'r cwmni fodloni o leiaf ddau o'r meini prawf isod:

  1. Trosiant heb fod yn fwy na £36 miliwn
  2. Nid yw cyfanswm y fantolen yn fwy na £18 miliwn
  3. Nifer y gweithwyr heb fod yn fwy na 250

Mae cyllid ar gael i fusnesau sefydledig, ond efallai y byddwn yn gallu cefnogi busnesau newydd mewn rhai amgylchiadau.

Sectorau

Yn gyffredinol, gallwn fuddsoddi ar draws y rhan fwyaf o sectorau. Fodd bynnag, mae rhai sectorau wedi'u heithrio; cysylltwch â ni am fwy o fanylion.

Defnydd o gyllid

Ni ellir defnyddio cyllid i ail gyllido benthycwyr presennol.

Lleoliad

Gallwn fenthyca i fusnesau yn rhanbarth CBDO, gan ganolbwyntio ar:

  • Bryste
  • Sir Gaerloyw
  • Gogledd a Gogledd ddwyrain Gwlad yr Haf
  • Wiltshire

Math o fusnes

At ddibenion South West Investment Fund, mae busnesau bach a chanolig (BBaCh) yn cael eu dosbarthu fel unrhyw endid sy’n gymwys fel rhai bach, micro neu ganolig yn unol ag adrannau 382, 384A a 465 o Ddeddf Cwmnïau 2006:

I gymhwyso fel BBaCh, rhaid i'r cwmni fodloni o leiaf ddau o'r meini prawf isod:

  1. Trosiant heb fod yn fwy na £36miliwn
  2. Nid yw cyfanswm y fantolen yn fwy na £18miliwn
  3. Nifer y gweithwyr heb fod yn fwy na 250

Mae cyllid ar gael i fusnesau sefydledig, ond efallai y byddwn yn gallu cefnogi busnesau newydd mewn rhai amgylchiadau.

Sectorau

Yn gyffredinol gallwn fuddsoddi ar draws y rhan fwyaf o sectorau. Fodd bynnag, mae rhai sectorau wedi'u heithrio; cysylltwch â ni am fwy o fanylion.

Defnydd o gyllid

Ni ellir defnyddio cyllid i ailgyllido benthycwyr presennol.

Lleoliad busnes

Mae'r gronfa ar gael i gwmnïau adeiladu a datblygwyr eiddo sydd am adeiladu prosiectau yn ardaloedd saith awdurdod lleol y Gogledd Ddwyrain:

  • Northumberland
  • Sir Durham
  • Gateshead
  • Newcastle upon Tyne
  • Gogledd Tyneside
  • De Tyneside
  • Sunderland

Math o fusnes

I fod yn gymwys, rhaid i chi fod yn gwmni adeiladu a datblygu eiddo sydd fel arfer yn gweithio gydag eiddo masnachol a phreswyl ar raddfa fach, heb fod yn hapfasnachol, megis cynlluniau tai newydd, cynlluniau adnewyddu, cynlluniau defnydd cymysg, swyddfeydd newydd, datblygiadau diwydiannol a warysau a  datblygiadau graddol, fesul cam.

Sectorau

Mae hon yn gronfa arbenigol sydd wedi'i hanelu at y sector eiddo.

Defnydd o gyllid

Mae'r gronfa yn darparu benthyciadau tymor byr rhwng £250,000 ac £1 miliwn ar gyfer costau datblygu gyda thymhorau hyd at 2 flynedd.

Mae'r gronfa yn ymateb i alw cryf gan gwmnïau adeiladu a datblygu eiddo llai sydd wedi cael trafferth cael mynediad at gyllid datblygu gan fenthycwyr traddodiadol.

Mae'r gronfa ar gael i gwmnïau adeiladu a datblygwyr eiddo sydd am adeiladu prosiectau yn ardaloedd saith awdurdod lleol y Gogledd Ddwyrain:

  • Northumberland
  • Sir Durham
  • Gateshead
  • Newcastle upon Tyne
  • Gogledd Tyneside
  • De Tyneside
  • Sunderland

Math o fusnes

I fod yn gymwys rhaid i chi fod yn gwmni adeiladu a datblygu eiddo sydd fel arfer yn gweithio gydag eiddo masnachol hapfasnachol neu heb fod yn hapfasnachol gan gynnwys cynlluniau defnydd cymysg, swyddfeydd newydd, datblygiadau diwydiannol a warysau a datblygiadau fesul cam.

Sectorau

Mae hon yn gronfa arbenigol sydd wedi'i hanelu at y sector eiddo.

Defnydd o gyllid

Mae'r gronfa'n darparu benthyciadau rhwng £1miliwn a £7 miliwn ar gyfer datblygiadau masnachol hapfasnachol a rhai nad ydynt yn hapfasnachol. Gall North East Commercial Property Investment Fund ddarparu hyd at 100 y cant o gostau adeiladu ar gyfer cynlluniau addas gyda thelerau ad-dalu hyd at bum mlynedd ar gael.

Lansiwyd y Gronfa i fynd i’r afael â bwlch yn y farchnad a hwyluso’r gwaith o gyflawni prosiectau datblygu eiddo masnachol newydd sy’n cefnogi creu cyflogaeth a thwf economaidd yn ardal PMLl Gogledd Ddwyrain Lloegr.

Lleoliad

Gallwn fenthyca i fusnesau yng Nghymru.

Math o fusnes

At ddibenion Cronfa Buddsoddi i Gymru, mae busnesau bach a chanolig (BBaChau) yn cael eu dosbarthu fel unrhyw endid sy’n gymwys fel rhai bach, micro neu ganolig yn unol ag adrannau 382, 384A a 465 o Ddeddf Cwmnïau 2006:

I gymhwyso fel BBaCh, rhaid i'r cwmni fodloni o leiaf ddau o'r meini prawf isod:

  • Trosiant heb fod yn fwy na £36miliwn
  • Nid yw cyfanswm y fantolen yn fwy na £18miliwn
  • Nid yw nifer y gweithwyr yn fwy na 250

Mae cyllid ar gael i fusnesau sefydledig, ond efallai y byddwn yn gallu cefnogi busnesau newydd mewn rhai amgylchiadau.

Sectorau

Yn gyffredinol gallwn fuddsoddi ar draws y rhan fwyaf o sectorau. Fodd bynnag, mae rhai sectorau wedi'u heithrio; cysylltwch â ni am fwy o fanylion.

Defnydd o gyllid

Ni ellir defnyddio cyllid i ail-gyllido benthycwyr presennol. 

Prynu busnes

  • Ar gyfer mewnbryniannau rheolwyr, allbryniannau rheolwyr, sy’n gyfuniad o’r ddau – mae’n rhaid i'r fenter a gaffaelir gan reolwyr fod â phresenoldeb materol yn Teesside
  • Ar gyfer caffaeliadau corfforaethol - rhaid i'r caffaelwr a/neu'r targed fod â phresenoldeb materol yn Teesside
  • Mae’n rhaid i’r cwmniau fod yn broffidiol ac yn cynhyrchu arian parod
  • Pan fyddwch yn gwneud cais mae angen i chi ddarparu cynllun busnes strwythuredig yn egluro sut y byddwch yn rhedeg y busnes ac yn ad-dalu'r cyllid
  • Bydd angen cyllid, datganiadau a rhagolygon i symud eich cais yn ei flaen

Cynnig am gontractau

  • Rhaid i'r rhai sy'n derbyn cyllid fod â phresenoldeb materol yn Teesside, neu mae'r contract yn darparu budd economaidd yn ardal Teesside
  • Rhaid i fondiau gael dyddiad dod i ben diffiniedig
  • Gallu ac adnoddau i gyflawni'r contract

Datblygu eiddo 

  • Rhaid i ddatblygwyr neu safleoedd fod wedi'u lleoli yn Teesside
  • Ar gael i gefnogi datblygiadau masnachol preswyl a heb fod yn hapfasnachol
  • Angen tir dilyffethair a chaniatâd cynllunio
  • Yn gallu cyd-fuddsoddi â chronfeydd FWC eraill

Nodwch os gwelwch yn dda

Os nad yw eich busnes wedi’i leoli yn yr ardal gywir, ond ei fod naill ai’n fodlon adleoli neu y bydd ganddo bresenoldeb materol yn y rhanbarth o ganlyniad i’r buddsoddiad, yna dylai hyn fod yn ddigonol – gall ein Swyddogion Buddsoddi lleol roi arweiniad pellach ar hyn i chi. 

Bydd angen darparu cynllun busnes a rhywfaint o wybodaeth ariannol hefyd cyn y gallwch dderbyn unrhyw gyllid.

 

Barod i wneud cais?

Os ydych yn barod i wneud cais cliciwch yma.