Diweddariad pwysig: newidiadau i geisiadau ar-lein  - Os nad ydych wedi dechrau neu gwblhau eich cais eto, adolygwch y wybodaeth sydd wedi'i diweddaru i osgoi unrhyw aflonyddwch os gwelwch yn dda. Darllen mwy

Gwnewch gais nawr

Cyn i chi wneud cais

  • Mae ein cronfeydd yn cwmpasu ardaloedd penodol o Gogledd Ddwyrain a De Orllewin Lloegr, yn ogystal â Chymru gyfan. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi gwirio eich busnes yn erbyn ein meini prawf yma.
  • I wneud cais ar-lein bydd angen i chi gofrestru cyfrif yn gyntaf.
  • Gallwch arbed eich cynnydd a dychwelyd i gwblhau'r ffurflen dro arall.
  • Dim ond am gyfnod o hyd at fis cyn iddynt gael eu dileu y bydd ffurflenni cais wedi'u cwblhau'n rhannol ar gael.
  • Gallwch uwchlwytho dogfennau ategol megis cynlluniau busnes a chyllid i helpu i gyflymu'r broses.

 

Angen cymorth?

Os oes angen cymorth arnoch i gwblhau eich ffurflen gais cysylltwch â ni a byddwn yn hapus i helpu.

Os oes gennych chi broblemau cael mynediad at ein ffurflen ar-lein gallwch lawrlwytho copïau caled o'r ffurflen yma i'w hanfon i [email protected].

 

Hysbysiad preifatrwydd

O dan gyfraith diogelu data mae’n rhaid i ni gael sail gyfreithiol ddilys ar gyfer casglu a defnyddio eich gwybodaeth bersonol. Pan fyddwch yn cysylltu â ni i gael rhagor o wybodaeth am ein cynnyrch neu wasanaethau, credwn fod gennym ddiddordeb cyfreithlon mewn gallu ymateb yn llawn i'ch ymholiad. Dim ond i ymateb i'ch ymholiad y bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio. I gael rhagor o wybodaeth, gweler adran dau ein hysbysiad preifatrwydd.