Diweddariad pwysig: newidiadau i geisiadau ar-lein  - Os nad ydych wedi dechrau neu gwblhau eich cais eto, adolygwch y wybodaeth sydd wedi'i diweddaru i osgoi unrhyw aflonyddwch os gwelwch yn dda. Darllen mwy

Cronfa Buddsoddi i Gymru sioe deithiol - Abertawe

Mae Banc Busnes Prydain yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau i ddathlu lansiad y Gronfa Fuddsoddi newydd gwerth £130 miliwn i Gymru.

Mae’r Gronfa Buddsoddi i Gymru newydd gwerth £130 miliwn, a lansiwyd ar 23 Tachwedd 2023, yn cynnig amrywiaeth o opsiynau cyllid masnachol, gyda benthyciadau llai rhwng £25,000 a £100,000, cyllid dyled rhwng £100,000 a £2 filiwn, a buddsoddiad ecwiti o hyd at £5 miliwn.

Mae’r achlysuron hyn ar gyfer busnesau llai, cynghorwyr busnes, cyfrifwyr, bancwyr, cyfreithwyr, yr ecosystem cymorth busnes ehangach a chynrychiolwyr y sector cyhoeddus sydd â diddordeb mewn datblygu poblogaeth Cymru o fusnesau bach.

Bydd yr achlysuron hyn yn eich cynorthwyo i ddeall y gwahanol opsiynau o ran cyllid sydd ar gael trwy’r gronfa, ac yn gyfle i chi gwrdd â rheolwyr y gwahanol gronfeydd – BCRS Business Loans, FW Capital a Foresight, yn ogystal â thîm Cronfeydd Buddsoddi’r Cenhedloedd a’r Rhanbarthau o Fanc Busnes Prydain.

Pwy sy'n dod