Diweddariad pwysig: newidiadau i geisiadau ar-lein  - Os nad ydych wedi dechrau neu gwblhau eich cais eto, adolygwch y wybodaeth sydd wedi'i diweddaru i osgoi unrhyw aflonyddwch os gwelwch yn dda. Darllen mwy

Cronfa Buddsoddi i Gymru yn cyhoeddi buddsoddiad mewn busnes harddwch yng Nghastell-nedd


Wedi ei gyhoeddi:
Blossom

Cronfa Buddsoddi i Gymru gwerth £130m yn cyhoeddi cytundeb cyllid dyled

Mae Banc Busnes Prydain wedi cyhoeddi’r ail gytundeb cyllid dyled o’r Gronfa Buddsoddi i Gymru gwerth £130 miliwn, gyda buddsoddiad £150,000 o’r gronfa Cyllid Dyled, o dan reolaeth y rheolwyr cronfeydd FW Capital.

Mae tîm o arbenigwyr harddwch hyfforddedig wedi ehangu eu busnes yng nghanol Castell-nedd, gyda chymorth FW Capital a Chronfa Buddsoddi i Gymru Banc Busnes Prydain. 

Agorodd Blossom, salon gwallt a harddwch moethus, ar hen safle Next ar New Street, Castell-nedd, yn gynharach yn y mis. Caiff y salon ei arwain gan yr arbenigwyr harddwch profiadol Jenny Dobson, artist colur cymwysedig a nyrs ran-amser Fiona Spinks, y mae’r ddwy yn rhedeg busnes gwallt, harddwch a cholur llwyddiannus yng nghanol y dref. 

Cefnogwyd lansiad y safle newydd gan fenthyciad Cyllid Dyled gwerth £150,000 oddi wrth y Gronfa Buddsoddi i Gymru, a lansiwyd gan Fanc Busnes Prydain ddiwedd 2023. 

Fe wnaeth y benthyciad, a roddwyd drwy FW Capital, ganiatáu i berchnogion Blossom brynu offer newydd a chostau eraill wrth sefydlu Blossom.

Penderfynodd Jenny lansio’r busnes ar ôl gweld y galw uchel yn Cherry Blossom, a sefydlodd yn 2020. Fe wnaeth y cynnydd yn nifer y cwsmeriaid a maint bach yr adeilad presennol yn Cherry Blossom arwain Jenny i ystyried sefydlu salon arall yn y dref. Roedd, Fiona, nyrs gymwysedig, hefyd yn gweithio o Cherry Blossom fel Afino Aesthetics ac ymunodd â Jenny wrth sefydlu Blossom.

Bydd y tîm – sy’n cynnwys arbenigwyr sydd eisoes yn gweithio yn Cherry Blossom - yn cynnig gwasanaeth trin gwallt, triniaethau laser, tylino, gorsaf ewinedd a gwelliannau i amrannau ac aeliau o'r salon newydd.

Yn ogystal â darparu gofod newydd i'r tîm groesawu mwy o gwsmeriaid, mae Blossom yn  chwarae rhan bwysig yng nghanol y dref, gan adfywio hen safle Next a gaeodd yn 2019.

Dywedodd Jenny Dobson: “Mae’r gefnogaeth rydyn ni wedi’i chael wedi bod yn wych. Rydyn ni eisoes wedi cael cryn lwyddiant yn Cherry Blossom, ac mae hyn yn rhoi’r cyfle i ni dyfu ein busnes hyd yn oed ymhellach a chynnig ystod ehangach o wasanaethau i hyd yn oed mwy o gwsmeriaid yng nghanol Castell-nedd. 

“Rydyn ni wedi gweld galw mawr am yr hyn rydyn ni’n ei gynnig yn Blossom yn barod, ac rydyn ni’n llawn yn ystod yr wythnosau nesaf – sy’n arwydd enfawr o hyder yn yr hyn rydyn ni’n ei wneud ac ni allem fod yn fwy cyffrous i weld sut bydd y cyfle hwn yn datblygu.”

Dywedodd Andrew Drummond, Swyddog Buddsoddi Gweithredol yn FW Capital: “Pleser oedd cefnogi Jenny a’r tîm yn Blossom i sefydlu eu safle newydd yn Blossom. Maen nhw’n enghraifft wych o fusnes llwyddiannus sy’n tyfu, gan ddod â chwsmeriaid a phobl yn ôl i safle pwysig yng nghanol y dref.

“Rydyn ni’n falch o’r gefnogaeth y gallwn ei chynnig i fusnesau fel Blossom ac yn dymuno pob llwyddiant iddyn nhw wrth i’w twf barhau.”

Ychwanegodd Mark Sterritt, Cyfarwyddwr Buddsoddiadau Banc Busnes Prydain: Lansiwyd y Gronfa Buddsoddi i Gymru i gefnogi busnesau uchelgeisiol fel Blossom gyda’u cynlluniau i ehangu ac i dyfu. 

“Rydyn ni’n falch bod y cyllid wedi galluogi i’r tim yn Blossom adfywio adeilad gwag yng nghanol y dref a bydd hefyd yn gyfle i staff uwchsgilio a datblygu.”

Mae’r Gronfa Buddsoddi i Gymru, sy’n cael ei chefnogi gan Fanc Busnes Prydain, yn gweithredu ar draws Cymru gyfan ac yn cynnwys amrywiaeth o opsiynau cyllid gyda benthyciadau o £25,000 i  £2 filiwn a buddsoddiadau ecwiti hyd at £5 miliwn i helpu busnesau bach a chanolig sefydlu, ehangu neu aros un cam ar y blaen. Mae BCRS Business Loans yn rheoli benthyciadau llai y gronfa (£25,000 i £100,000) FW Capital sy’n gyfrifol am fenthyciadau mwy (£100,000 i £2 filiwn) a Foresight sy’n rheoli cytundebau ecwiti (hyd at £5 miliwn).

Mae’r Gronfa Buddsoddi i Gymru yn helpu i gynyddu cyflenwad ac amrywiaeth cyllid cyfnod cynnar drwy gynnig opsiynau i fusnesau llai na fyddent efallai’n cael buddsoddiad fel arall. Mae’r cyllid wedi'i gynllunio i helpu busnesau gyda gweithgareddau gan gynnwys ehangu, arloesi cynnyrch neu wasanaethau, prosesau newydd, datblygu sgiliau ac offer cyfalaf.