Datblygwr eiddo

Benthyciadau ar gyfer datblygiadau preswyl a masnachol yn ardal PMLl Gogledd Ddwyrain Lloegr.

Nodweddion Allweddol

wdc
£55m

arian i gefnogi prosiectau’r Gogledd Ddwyrain

  • Rheolwyr cyfrifon lleol, ymroddedig
  • Benthyciadau rhwng £250,000 a £7 miliwn ar gyfer costau datblygu
  • Rowlio llog i fyny ar gael
  • Cyfraddau llog / ffioedd y cytunwyd arnynt ymlaen llaw
  • Un pwynt cyswllt i'ch helpu i lywio'r broses gyfan

Gallwn ariannu datblygiadau eiddo masnachol fel:

  • Cynlluniau adnewyddu
  • Cynlluniau defnydd cymysg
  • Datblygiadau swyddfa, diwydiannol a warws newydd
  • Datblygiadau graddol fesul cam

Trwy gronfa Buddsoddi mewn North East Commercial Property Investment Fund gwerth £35 miliwn, gallwn gynnig benthyciadau:

  • o £1miliwn i £7 miliwn
  • tymor o hyd at bum mlynedd
  • ar gyfer cynlluniau hapfasnachol a heb fod yn hapfasnachol

Trwy'r North East Property Fund £20 miliwn, gallwn gynnig benthyciadau:

  • o £250,000 i £2 filiwn
  • tymor o hyd at ddwy flynedd
  • ar gyfer datblygiadau nad ydynt yn hapfasnachol yn unig

Mae cyllid ar gael i gwmnïau adeiladu a datblygwyr eiddo sydd yn bwriadu adeiladu prosiectau yn ardaloedd saith awdurdod lleol y Gogledd Ddwyrain:

Northumberland, Swydd Durham, Gateshead, Newcastle upon Tyne, Gogledd Tyneside, De Tyneside a Sunderland.

Gallwn ariannu eiddo preswyl ar raddfa fach, drwy North East Property Fund.

  • Meintiau benthyciadau o £250,000 i £2 filiwn
  • Telerau benthyciad o hyd at ddwy flynedd
  • Datblygiadau nad ydynt yn hapfasnachol yn unig
  • Cronfa o £20 miliwn

Mae'r gronfa ar gael i gwmnïau adeiladu a datblygwyr eiddo sydd am adeiladu prosiectau yn ardaloedd saith awdurdod lleol y Gogledd Ddwyrain:

Northumberland, Swydd Durham, Gateshead, Newcastle upon Tyne, Gogledd Tyneside, De Tyneside a Sunderland.

Os ydych yn bwriadu symud ymlaen gyda chynlluniau i adeiladu eiddo masnachol a phreswyl cyfunol, dechreuwch drwy siarad â ni. Gallwn gynnig ateb sy'n darparu ar gyfer pob angen - ar gyfer datblygiadau hapfasnachol a heb fod yn hapfasnachol.

Mae cyllid ar gael i gwmnïau adeiladu a datblygwyr eiddo sydd am adeiladu prosiectau yn ardaloedd saith awdurdod lleol y Gogledd Ddwyrain:

Northumberland, Swydd Durham, Gateshead, Newcastle upon Tyne, Gogledd Tyneside, De Tyneside a Sunderland.

Gwneud cais

Cyn y gallwn eich helpu, bydd angen i chi ddarparu'r canlynol i ni:

  • Cyfrifon ar gyfer eich cwmni ac unrhyw gwmnïau cysylltiedig a    chrynodeb prosiect yn manylu ar:
  • Eich cyfraniad ariannol
  • Unrhyw gyfraniad ariannol arall
  • Caniatâd(au) cynllunio perthnasol
  • Yr amserlen adeiladu arfaethedig
  • Y gwerth rydych chi'n gobeithio ei gyflawni o werthu'r prosiect
  • Dadansoddiad manwl o gostau'r prosiect
  • Manylion y cytundeb(au) cyn-werthu ar gyfer y prosiect yn dangos sut y byddwch yn ad-dalu ein benthyciad

Angen gwybod mwy yn gyntaf?

Os oes gennych gwestiwn anfonwch neges atom neu ceisiwch ddarllen ein hadran Cwestiynau Cyffredin.