Darllenwch y wybodaeth bwysig ganlynol yn ofalus.
Datgeliadau
This sets out how the Development Bank of Wales and its associates (including FW Capital) collectively described as ‘DBW’ will use the information provided in this application as well as necessary authorisations which respective applicants referred to as ‘I’, ‘We’, ‘me’, ‘us’, ‘you’ are providing to DBW. False or misleading information will result in the application being declined without further explanation.
Mae hwn yn nodi sut y bydd Banc Datblygu Cymru a’i gymdeithion (gan gynnwys FW Capital) a ddisgrifir ar y cyd fel ‘BDC’ yn defnyddio’r wybodaeth a ddarperir yn y cais hwn yn ogystal ag awdurdodiadau angenrheidiol y cyfeirir at yr ymgeiswyr perthnasol fel ‘Fi’, ‘Ni’, 'Ninnau', 'Chi' yn darparu i BDC. Bydd gwybodaeth ffug neu gamarweiniol yn arwain at wrthod y cais heb esboniad pellach.
- Efallai y bydd Banc Datblygu Cymru yn cael gwybodaeth amdanoch gan asiantaethau gwirio credyd i helpu i wneud penderfyniadau ac i reoli eich cyfrif, gan gynnwys eich perfformiad talu. Bydd yr asiantaethau hyn yn rhoi gwybodaeth gredyd i BDC yn ogystal â gwybodaeth o'r Gofrestr Etholiadol a data arall a gedwir ar eich ffeil credyd.
- Bydd yr asiantaethau'n cofnodi manylion unrhyw chwiliadau p'un a yw'r cais hwn yn mynd yn ei flaen ai peidio ac efallai y bydd y chwiliadau hyn yn cael eu gweld gan gwmnïau eraill sy'n gwneud eu hymholiadau credyd eu hunain amdanoch chi. Gall hyn effeithio ar eich gallu i gael credyd yn rhywle arall yn y dyfodol agos.
- Ceir canllawiau llawn ar yr hyn y mae Banc Datblygu Cymru yn ei wneud a sut y bydd Banc Datblygu Cymru ac asiantaethau gwirio credyd ac asiantaethau atal twyll yn defnyddio’ch gwybodaeth yn y ddogfen “Canllaw i Ddefnyddio’ch Gwybodaeth Bersonol a Busnes”.
- Gall BDC ddefnyddio dulliau sgorio credyd i asesu eich cais.
- Bydd eich cais yn cael ei asesu gan ddefnyddio cofnodion asiantaeth gwirio credyd sy'n ymwneud ag unrhyw un yr ydych yn gysylltiedig yn ariannol ag ef. Gellir defnyddio’r wybodaeth hon hefyd ar gyfer olrhain dyledion yn ogystal â rheoli unrhyw gyllid a ddarperir gan BDC yn barhaus.
- Mae’n bosibl y bydd Banc Datblygu Cymru yn rhannu gwybodaeth ag asiantaethau gwirio credyd ynghylch sut rydych chi’n rheoli’ch cyfrif. Mae’r wybodaeth hon ar gael i sefydliadau eraill (gan gynnwys asiantaethau atal twyll a sefydliadau ariannol eraill) fel y gallant wneud penderfyniadau amdanoch chi, eich cymdeithion ac aelodau o’ch cartref.
- Gall unrhyw wybodaeth a ddarperir gennych gael ei chadw gan BDC yn ei gofnodion cyfrifiadurol i reoli unrhyw gyllid a ddarperir a gellir ei rhannu o fewn BDC a chyda thrydydd partïon i amddiffyn cwsmeriaid BDC a BDC rhag twyll.
- Er mwyn atal neu ganfod twyll, bydd y wybodaeth a ddarperir yn y ffurflen gais hon yn cael ei rhannu ag asiantaethau atal twyll. Mae'n hanfodol felly eich bod yn darparu gwybodaeth gywir bob amser.
- Mae gennych hawl i gopïau o unrhyw ddata personol a gedwir amdanoch gan BDC a gofyn i unrhyw gamgymeriadau gael eu cywiro.
- Mae gan BDC yr hawl i ofyn am ragor o wybodaeth os oes angen.
Cytundebau
Wrth gwblhau’r ffurflen gais hon rwyf/rydym yn cadarnhau’r canlynol:
- Rwyf i /Rydym ni yn cyflwyno'r cais hwn am fuddsoddiad ac yn tystio bod y wybodaeth a ddarparwyd yn wir ac yn gywir.
- Rwyf i /Rydym ni yn awdurdodi Banc Datblygu Cymru i ofyn am chwiliadau gan asiantaethau gwirio credyd i edrych ar y wybodaeth sydd ar gael am y busnes a’r ymgeiswyr sy’n gysylltiedig â’r busnes at ddiben asesu credyd.
- Rwyf i /Rydym ni yn awdurdodi BDC i gynnal ymchwiliadau eraill sy’n ofynnol wrth asesu’r cais hwn gan gynnwys dadansoddiad ystadegol i brofi ad-daliad unrhyw gyllid a ddarparwyd.
- Rwyf i /Rydym ni’n cydnabod y gall BDC rannu gwybodaeth amdanaf i/ni â thrydydd partïon megis asiantaethau cyfeirio credyd, asiantaethau atal twyll, Llywodraeth Cymru ac unrhyw drydydd parti arall ar gyfer asesu’r cais hwn, atal troseddau ariannol a rheolaeth barhaus o unrhyw gyllid, neu gyllid dilynol, a ddarperir.
- Rwyf i /Rydym ni’n cytuno y bydd y wybodaeth a’r dogfennau ategol a ddarperir yn cael eu defnyddio gan BDC i asesu’r cais hwn ac mae penderfyniad BDC yn derfynol.
- Rwyf /Rydym yn cadarnhau fy mod/rydym wedi darllen Hysbysiad Preifatrwydd FW Capital ac yn cadarnhau cywirdeb y datganiadau a wneir ynddo.