Diweddariad pwysig: Mae angen cwblhau pob cais erbyn hanner nos 16 Medi 2025 os ydych chi am ddefnyddio ein system ymgeisio bresennol. Darllen mwy

Llanelli

Rydym yn cynnig benthyciadau ac ecwiti allan o'n swyddfa yn Llanelli i helpu busnesau Gorllewin Cymru

Map of Llanelli

Cyrraedd ein swyddfeydd yn Llanelli

Os ydych chi'n teithio ar y trên, mae Canolfan Fenter Y Goleudy yn daith fer mewn tacsi o'r orsaf drenau, sy'n bedair milltir a deg munud i ffwrdd.

Os ydych chi'n teithio mewn car, mae gennym ddigon o le parcio ar y safle. Gadewch yr M4 wrth gyffordd 48 a dilynwch yr A4138 tuag at Lanelli. Ewch yn syth ymlaen ar y gylchfan gyntaf a'r ail a chymerwch y ail allanfa ar y drydedd gylchfan i mewn i ystâd Ddiwydiannol Dafen. Cymerwch y tro cyntaf am Heol Aur ac mae'r Goleudy yn union o'ch blaen ar ben y bryn.

Ein cyfeiriad yw:- Banc Datblygu Cymru, Y Goleudy - Canolfan Menter Dafen, Llanelli, Sir Gaerfyrddin SA14 8LQ

 

Mynediad Anabl

  • Darperir mynediad heb risiau a drysau awtomatig yn y brif fynedfa 
  • Mae baeau parcio hygyrch dynodedig ar gael
  • Mae lifftiau ar gael
  • Mae toiledau hygyrch ar gael ar bob llawr
  • Rydym yn croesawu cwn cymorth