Benthyciad o £225,000 yn cefnogi twf cyflym yn y cwmni diagnosteg U Test drwy gyfrwng Cronfa Buddsoddi i Gymru


Navid Falatoori
Dirprwy Reolwr y Gronfa
Wedi ei gyhoeddi:
U-Test

Mae U Test Diagnostics, sydd wedi'i leoli yn y Bont-faen, wedi sicrhau benthyciad o £225,000 gan FW Capital, trwy Gronfa Buddsoddi i Gymru Banc Busnes Prydain, i gyflymu'r broses o gyflwyno ei brofion iechyd cartref sydd wedi'u cymeradwyo'n glinigol.

Wedi'i sefydlu yn 2024 gan y brodyr Harry a Jamie Griffiths, mae'r busnes yn ehangu i ddiwallu'r galw cynyddol am ddiagnosteg gyflym, cywir a hygyrch.

Mae U Test yn cynnig ystod gynhwysfawr o brofion iechyd sy'n cwmpasu iechyd organau mewnol, iechyd atgenhedlu, heintiau a diffygion. Mae eu pecynnau'n darparu canlyniadau cywir a dibynadwy o fewn 5-10 munud. Mae'r busnes hefyd yn darparu gwasanaeth cylch llawn trwy bartneriaeth ag Evaro, gan roi mynediad uniongyrchol i gwsmeriaid at feddyg teulu a thriniaeth neu wrthfiotigau os oes angen.

Mae twf wedi'i yrru gan gontractau gyda manwerthwyr mawr gan gynnwys Home Bargains a Savers. Ar ben hynny, mae U Test mewn trafodaethau gyda'r GIG ynghylch cyflenwi profion sgrinio'r coluddyn ac mae wedi ymgysylltu'n uniongyrchol â Bowel Cancer UK, tra bod y busnes hefyd wedi cael hawliau unigryw yn y DU ac Iwerddon i werthu'r unig brawf poer yn y byd i brofi am feichiogrwydd. Bydd hwn yn cael ei lansio yn siopau Morrisons ledled y DU ddiwedd mis Ebrill.

Meddai Harry Griffiths, Cyd-sylfaenydd U Test Diagnostics: “Mae U Test ar gyfer y crynswth y boblogaeth, nid dim ond yr ychydig freintiedig. Gall y profion hyn achub bywyd rhywun o ddifri calon, ac rydym wedi ymfalchïo bob amser yn ein gallu i wneud y profion yn fforddiadwy. Gwelsom yn uniongyrchol yn ystod Covid pa mor hanfodol y gall profion dibynadwy fod, ond gwelsom hefyd lawer o becynnau llai dibynadwy ar y farchnad.

“Mae’r galw am ein pecynnau wedi tyfu ar gyfradd sydyn, ac mae yna nifer o bobl yn dal i fod sydd ddim yn sylweddoli bod canlyniadau cywir fel geir mewn labordy hefyd ar gael gartref mewn munudau. Mae’r buddsoddiad hwn yn golygu y gallwn ni ddiwallu’r galw gan fanwerthwyr a rhoi hwb i’n marchnata, er mwyn gwneud mwy o bobl yn ymwybodol o’r ystod o brofion sydd ar gael.”

Dywedodd Navid Falatoori, Dirprwy Reolwr Cronfa yn FW Capital, a arweiniodd y buddsoddiad: “Mae U Test yn tyfu’n gyflym drwy gyfuno ansawdd clinigol â hygyrchedd. Mae gan Harry a Jamie brofiad yn y sector diagnosteg a hanes cryf o gyflenwi ar raddfa fawr.

“Mae eu twf yn ystod yr 11 mis cyntaf yn dangos galw clir yn y farchnad am brofion cywir a chyflym yn y cartref. Bydd ein cyllid cynnar yn helpu’r busnes i ehangu cynhyrchiant, cryfhau marchnata a diwallu’r archebion cynyddol gan fanwerthwyr mawr.”

Dywedodd Bethan Bannister, Uwch Reolwr Buddsoddi, Cronfeydd Buddsoddi Cenhedloedd a Rhanbarthau ym Manc Busnes Prydain: “Mae gan Gymru enw da am ei arloesedd ac mae’r enw da hwnnw’n tyfu mewn sectorau fel gwyddorau bywyd, ac mae busnesau fel U Test yn helpu i yrru hynny ymlaen.

“Drwy gyfrwng Cronfa Buddsoddi i Gymru, rydym wedi ymrwymo i gefnogi cwmnïau sydd â’r uchelgais i ehangu, arloesi a chystadlu ar lwyfan mwy. Mae’r buddsoddiad hwn yn adlewyrchu ein ffocws parhaus ar gefnogi busnesau twf uchel a all gyflawni effaith economaidd hirdymor ledled Cymru. Mae hefyd yn wych gweld y bartneriaeth ag Evaro, a gwblhaodd rownd ariannu Cyfres A gwerth $25M yn ddiweddar, y cymerodd Banc Busnes Prydain ran ynddi.”

Cefnogwyd y fargen hefyd gan Tanya Wilson a Rhys Jenkins o SME Finance Partners, a helpodd U Test i sicrhau cyllid.

Lansiwyd Cronfa Buddsoddi i Gymru, a gefnogir gan Fanc Busnes Prydain, yn 2023 ac mae'n gweithredu ledled Cymru gyfan. Mae'r gronfa'n cynnwys ystod o opsiynau cyllido gyda benthyciadau o £25,000 i £2 filiwn a buddsoddiadau ecwiti hyd at £5 miliwn i helpu busnesau bach a chanolig i ddechrau, ehangu neu aros ar flaen y gad. Mae FW Capital yn gyfrifol am fenthyciadau mwy o £100,000 i £2 filiwn.

Am ragor o wybodaeth, ewch i weld https://www.british-business-bank.co.uk/finance-options/nations-and-regions-investment-funds/investment-fund-for-wales