Cronfa Fuddsoddi i Gymru yn helpu i ddod â bwytai pizza poblogaidd Bosco i Gaerdydd


Wedi ei gyhoeddi:
Bosco Cardiff

Mae trattoria a pizzeria poblogaidd wedi agor ei fwyty Cymreig cyntaf yng nghanol dinas Caerdydd, gyda chefnogaeth benthyciad o £350,000 gan Gronfa Fuddsoddi Cymru, trwy FW Capital.

Agorodd y Bosco cyntaf ym Mryste yn 2014, ac mae'r brand yn gweithredu o bedwar lleoliad ar draws de-orllewin Lloegr. Yn adnabyddus am eu pizzas ar ddull Napoli wedi'u coginio mewn tân coed a bwyd Eidalaidd o'r radd flaenaf, mae bwyty newydd Bosco eisoes yn boblogaidd gyda chiniawyr yng Nghaerdydd.

Ariannodd benthyciad o £350,000 gan Gronfa Buddsoddi Cymru Banc Busnes Prydain, drwy FW Capital, waith adnewyddu’r adeilad ar y Stryd Fawr, yn ogystal â darparu cyfalaf gweithio. Fe wnaeth y benthyciad ddatgloi cyd-fuddsoddiad saith ffigur pellach gan fuddsoddwyr preifat hefyd.

Dywedodd Joe Cook, Rheolwr Gyfarwyddwr Bosco: “Mae’r bwyty newydd yng Nghaerdydd eisoes wedi rhagori ar ein disgwyliadau. Mae’r rhan honno o’r ddinas yn hwyliog ac mae yno brysurdeb trawiadol, ac rydym wedi cael ein croesawu â breichiau agored.

“Ein bwriad erioed fu tyfu fel busnes, ac fe wnaeth y benthyciad hwn ganiatáu i ni roi ein stamp ar y safle newydd, a’i ailwampio ar raddfa fawr yn unol â’n brand. Diolch i lwyddiant y bwyty yng Nghaerdydd, rydym yn hyderus yn yr hyn y gallwn ei gyflawni yng Nghymru, ac yn sicr rydym am dyfu ymhellach yng Nghymru yn y flwyddyn a hanner nesaf.”

Dywedodd John Babalola, Swyddog Buddsoddi yn FW Capital: “Mae gan Bosco frand gwych. Roedd eu ehangiad i un o ardaloedd mwyaf poblogaidd Caerdydd ar gyfer bariau a bwytai yn gam nesaf amlwg iddyn nhw. Rydym yn falch bod ein cefnogaeth wedi eu helpu i sefydlu’r bwyty yng Nghaerdydd yn gyflym, ac mae’n dda gweld bod galw mawr amdano yn barod.”

Dywedodd Bethan Bannister, Uwch Reolwr Buddsoddi, Cronfeydd Buddsoddi’r Cenhedloedd a’r Rhanbarthau yn y British Business Bank: “Rydym yn falch o weld Cronfa Fuddsoddi i Gymru  yn cefnogi Bosco, gan ddod â brand poblogaidd i Gaerdydd. Mae’r buddsoddiad hwn yn tynnu sylw at sut y gall y gronfa ddarparu’r cyllid cywir ar yr amser cywir i helpu busnesau uchelgeisiol i ehangu i farchnadoedd newydd, creu swyddi a chyfrannu at fywiogrwydd canol ein trefi a’n dinasoedd.”

Lansiwyd Cronfa Fuddsoddi i Gymru , a gefnogir gan Fanc Busnes Prydain, yn 2023 ac mae'n gweithredu ledled Cymru gyfan. Mae'r gronfa'n cynnwys ystod o opsiynau cyllido gyda benthyciadau o £25,000 i £2 filiwn a buddsoddiadau ecwiti hyd at £5 miliwn i helpu busnesau bach a chanolig i ddechrau, ehangu neu i aros ar flaen y gad. Mae FW Capital yn gyfrifol am fenthyciadau mwy o £100,000 i £2 filiwn.

Am ragor o wybodaeth, ewch i weld https://www.british-business-bank.co.uk/finance-options/nations-and-regions-investment-funds/cronfa-buddsoddi-i-gymru