Mae gwneuthurwr o Gasnewydd sy'n arbenigo mewn datrysiadau ffensio metel o ansawdd uchel, sydd â gofynion cynnal a chadw isel, ar fin cyflymu ei gynlluniau twf ar ôl sicrhau benthyciad o £300,000 gan Gronfa Fuddsoddi Cymru, a reolir gan FW Capital.
Mae Climar Industries, y cwmni y tu ôl i'r brand ColourFence, yn cynhyrchu ac yn dosbarthu paneli ffensio metel, rheiliau, gatiau a siediau o'i gyfleuster yng Nghasnewydd. Mae'r cynhyrchion wedi'u cynllunio i fod yn hawdd i’w cynnal a'u cadw, yn gynaliadwy, yn amlbwrpas yn esthetig, ac yn gallu gwrthsefyll tywydd eithafol - gan gynnig dewis arall cadarn i gwsmeriaid yn lle ffensio traddodiadol.
Bydd y benthyciad o £300,000 gan Gronfa Buddsoddi Cymru yn cael ei ddefnyddio i gyflwyno llinellau cynnyrch newydd, gan gynnwys atebion gardd cyflenwol a dyluniadau ffensio arloesol, i ddiwallu'r galw cynyddol gan gwsmeriaid. Mae'r buddsoddiad wedi'i gynllunio i ategu twf busnes, cynnal momentwm, a chefnogi creu a diogelu swyddi ar adeg pan fo cydnerthedd gweithgynhyrchu a chadwyni cyflenwi domestig yn parhau i fod yn strategol bwysig i Gymru.
Mae'r ystod ColourFence yn gwbl ailgylchadwy, yn gwrthsefyll tân ac yn ateb cynaliadwy nad oes angen triniaethau cemegol gwenwynig, paent na stripwyr paent ar gyfer cynnal a chadw parhaus. Ynghyd â hyd oes gwarantedig o tua 25 mlynedd, mae natur cynnal a chadw isel y cynhyrchion yn helpu i leihau cylchoedd ailosod a gwastraff.
Mae Cronfa Buddsoddi Cymru yn fenter gan Fanc Busnes Prydain sy'n cefnogi busnesau llai ledled Cymru gydag amrywiaeth o opsiynau cyllid, gan gynnwys cyllid dyled o £100,000 i £2 filiwn, a ddarperir gan FW Capital.
Mark Stewart-Woods, Prif Weithredwr Climar Industries Group:
“Mae Climar wedi tyfu drwy ganolbwyntio ar ansawdd, dibynadwyedd a chynnyrch sy’n diwallu anghenion cwsmeriaid yn wirioneddol. Bydd y buddsoddiad hwn yn ein helpu i ehangu i linellau cynnyrch newydd ac adeiladu ar y momentwm rydym wedi’i greu wrth i’r busnes esblygu. Rydym yn falch bod ein gweithgynhyrchu’n parhau i fod â gwreiddiau yng Nghasnewydd tra bod ein cynnyrch yn cyrraedd cwsmeriaid ledled y wlad, ac rydym yn gyffrous am y cam twf nesaf.
“Mae’r buddsoddiad yn cefnogi ein huchelgais i dyfu’n sylweddol ac o bosibl dyblu o ran maint dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, gan gryfhau’r dirwedd weithgynhyrchu yma yng Nghasnewydd wrth barhau i wasanaethu cwsmeriaid yn genedlaethol.”
Muhammad Awais, Cyfarwyddwr Cyllid yn Climar Industries Group:
“Mae’r cyllid hwn yn darparu’r cyfalaf gweithio angenrheidiol i ni i fuddsoddi yn y cynhyrchion rydyn ni’n gwybod bod y farchnad yn gofyn amdanynt, gan amddiffyn sefydlogrwydd y busnes ehangach wrth i ni dyfu. Roedd FW Capital yn effeithlon ac yn syml i weithio gyda nhw, ac ymdriniwyd â’r broses yn glir ac yn gyflym, sef yn union yr hyn sydd ei angen arnoch chi wrth reoli twf.”
Dywedodd Arushi Jolly, Swyddog Buddsoddi yn FW Capital:
“Mae Climar Industries Group yn fusnes o dras Gymreig sydd wedi adeiladu a chynnal ei sylfaen weithgynhyrchu yng Nghasnewydd ers ei sefydlu yn 2003. Gyda throsiant o saith ffigur a gweithlu o tua 50 o bobl, mae ganddo hanes cryf o addasu i newid yn y farchnad a pharhau i dyfu, wrth gyflenwi cwsmeriaid ledled y DU ac Iwerddon.
“Yr hyn sy’n sefyll allan yn arbennig yw safle’r grŵp mewn marchnad sydd â chystadleuaeth gyfyngedig a chynnig cynnyrch sy’n ei osod ar wahan i lawer o ddewisiadau eraill, gan gynnwys defnyddio dur gradd uchel a gwarant cynnyrch hirdymor.”
“Bydd y benthyciad hwn gan Gronfa Buddsoddi Cymru yn cefnogi cynlluniau twf ac ehangu Climar tra hefyd yn cefnogi gwneuthurwr sydd â chymwysterau cynaliadwyedd clir.”
Dywedodd Bethan Bannister, Uwch Reolwr Buddsoddi, Cronfeydd y Cenhedloedd a'r Rhanbarthau ym Manc Busnes Prydian:
“Crëwyd Cronfa Fuddsoddi Cymru i helpu i gefnogi busnesau uchelgeisiol fel Climar, sy’n symud i’r cam nesaf yn ei ddatblygiad.
“Ddwy flynedd ar ôl lansio’r Gronfa, rydym wedi cefnogi ystod eang o fusnesau ar draws sectorau a chymunedau amrywiol ledled Cymru. Edrychwn ymlaen at weld sut mae’r cyllid hwn yn galluogi Climar i barhau â’i lwybr twf.”