Diweddariad pwysig: newidiadau i geisiadau ar-lein  - Os nad ydych wedi dechrau neu gwblhau eich cais eto, adolygwch y wybodaeth sydd wedi'i diweddaru i osgoi unrhyw aflonyddwch os gwelwch yn dda. Darllen mwy

Y Gronfa Buddsoddi i Gymru yn cefnogi cynhyrchwyr deunydd lapio gyda buddsoddiad o £100,000


Wedi ei gyhoeddi:
Chevler

Mae cynhyrchydd deunydd lapio cacennau o’r Cymoedd sy’n cyflenwi cwmnïau mawr yn gosod ei fryd ar dwf pellach yn dilyn benthyciad o £100,000 gan y Gronfa Buddsoddi i Gymru, a gynigir gan Fanc Busnes Prydain

Wedi’i leoli yn Hirwaun, Chevler yw prif wneuthurwr y DU o gasys papur a ddefnyddir ar gyfer pobi a gwerthu cacennau a myffins. Mae gan y cwmni sy’n cyflogi 59 o bobl berthynas hirsefydlog â brandiau adnabyddus gan gynnwys Costa Coffee, Greggs, Lidl a Harvester, ynghyd â nifer o gwmnïau pobi a choginio cyfanwerthu llai eraill.

Gyda'r benthyciad o £100,000 gan y Gronfa Buddsoddi i Gymru, a ddarparwyd gan FW Capital, mae'r busnes wedi prynu cyfarpar gweithgynhyrchu newydd i helpu i ateb y galw cynyddol. Bydd y peiriannau ‘Vac Wrap’ newydd yn cynhyrchu cynwysyddion papur yn unig, gan alluogi Chevler i liniaru costau cynyddol deunyddiau wrth i’w gleientiaid wynebu biliau uwch am ynni a chynhwysion. Mae'r peiriannau arloesol unigryw hyn wedi’u dylunio gan beirianwyr Chevler ac wedi'u hadeiladu gyda chefnogaeth cwmnïau peirianneg fecanyddol a thrydanol lleol.

Mae Chevler yn ymfalchïo yn y ffaith bod ganddo sgôr AA gan Gonsortiwm Manwerthu Prydain ac achrediad llawn gan y Cyngor Stiwardiaeth Coedwigoedd, gan sicrhau bod ei gynhyrchion yn cyrraedd safonau uchel ar gyfer diogelwch bwyd a chynaliadwyedd amgylcheddol, ac yn dangos ymrwymiad y busnes i ddarparu deunydd pacio diogel, dibynadwy a chyfrifol i gwsmeriaid ledled y DU ac Ewrop.

Lansiwyd y Gronfa Buddsoddi i Gymru gan Fanc Busnes Prydain, a gefnogir gan y llywodraeth, i hybu’r cyflenwad o gyllid cyfnod cynnar i fusnesau bach a chanolig ledled Cymru. Penodwyd FW Capital yn un o dri rheolwr cronfa ar gyfer y Gronfa Buddsoddi i Gymru, gyda chyfrifoldeb am fenthyciadau mwy rhwng £100,000 a £2 filiwn.

Dywedodd Janet Speck, Swyddog Gweithredol Monitro Portffolio yn FW Capital: “Mae Chevler yn darparu cyswllt hanfodol mewn cadwyni cyflenwi ar gyfer nifer o fusnesau mawr a bach fel ei gilydd, ac mae adolygu eu gweithrediadau er mwyn helpu i dorri costau deunyddiau yn eu galluogi i aros yn gystadleuol a chynnal cysylltiadau cryf â chwmnïau ledled y DU.

“Mae’n bwysig eu bod yn gallu sefydlogi costau ac addasu i newidiadau yn y farchnad, felly rydym yn falch iawn o fod wedi cefnogi’r cwmni i brynu’r peiriannau ‘Vac Wrap’ newydd gyda’r benthyciad o £100,000.”

Dywedodd Seth East, Cyfarwyddwr Gwerthu a Marchnata Chevler: “Mae’r benthyciad hwn wedi ein galluogi i gymryd y cam nesaf yn ein cynlluniau twf wrth i ni geisio torri costau i’n cwsmeriaid ac aros yn gystadleuol, ac ar yr un pryd leihau faint o ddeunyddiau a ddefnyddir yn ystod ein proses weithgynhyrchu.

“Fel busnes sy’n cyflenwi llawer o gwsmeriaid ar draws y DU a thu hwnt, rydym am wneud popeth o fewn ein gallu i ddiogelu ein gwaith at y dyfodol, ac mae buddsoddiad y Gronfa Buddsoddi i Gymru wedi ein galluogi i fuddsoddi mewn peiriannau sydd ar flaen y gad.”

Ers lansio’r Gronfa Buddsoddi i Gymru ym mis Tachwedd 2023, a phenodi FW Capital yn un o reolwyr y gronfa, mae wedi cefnogi mwy nag 20 o fusnesau, gyda buddsoddiadau’n amrywio o £100,000 i £1.8 miliwn. Mae busnesau o bob ardal awdurdod lleol yng Nghymru wedi mynegi diddordeb yn y gronfa.

Dywedodd Bethan Bannister, Uwch Reolwr Buddsoddi gyda Banc Busnes Prydain: “Mae’n wych gweld y Gronfa Buddsoddi i Gymru yn cefnogi cwmni sefydledig a llwyddiannus yng Nghymoedd De Cymru wrth iddo fuddsoddi yn y gwaith uwchraddio’r peiriannau a’r dechnoleg arloesol sydd eu hangen er mwyn parhau i ddiwallu anghenion ei gleientiaid mewn amgylchedd economaidd mor gystadleuol. Mae’n hanfodol bod busnesau fel Chevler, sy’n gyflogwr lleol cryf a chanddo broffil cenedlaethol, yn cael y cyfalaf sydd ei angen i ffynnu, ac rydym yn hynod falch o fod yn darparu’r gefnogaeth sydd ei hangen arno.”

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.british-business-bank.co.uk