Diweddariad pwysig: newidiadau i geisiadau ar-lein  - Os nad ydych wedi dechrau neu gwblhau eich cais eto, adolygwch y wybodaeth sydd wedi'i diweddaru i osgoi unrhyw aflonyddwch os gwelwch yn dda. Darllen mwy

Y teulu Edwards yn buddsoddi yn Aberdâr gyda chefnogaeth Cronfa Fuddsoddi Cymru


Wedi ei gyhoeddi:
NTJ PLasterers

Mae busnes teuluol wedi dechrau gwaith ar adnewyddu hen swyddfeydd ar Abernant Road yn Aberdâr yn dilyn buddsoddiad o £200,000 gan Gronfa Fuddsoddi Cymru.

Mae NTJ Plasterers yn cael ei redeg gan Velda a Nel Edwards ynghyd â'u dau fab, Tom a Jake. Prynodd y cwmni yr adeilad deulawr yn 2018 ac maen nhw bellach yn ymgymryd â rhaglen adnewyddu fawr sydd wedi'i hariannu'n rhannol gan fenthyciad cyllid ariannu dyled o £200,000 gan Gronfa Fuddsoddi Cymru, a lansiwyd gan British Business Bank ddiwedd 2023. 

Ar ôl eu cwblhau, y swyddfeydd newydd fydd pencadlys NTJ Plasterers, sy'n cyflogi 22 o staff a 90 o isgontractwyr i gyflawni prosiectau adeiladu a gwasanaethau plastro arbenigol i'r sectorau adeiladu a thai ledled y DU. Mae cleientiaid yn cynnwys awdurdodau lleol amrywiol, cymdeithasau tai a datblygwyr tai newydd. 

Bydd y swyddfeydd newydd yn cynnwys ystafell hyfforddi bwrpasol i staff, gan gynnwys y 13 prentis y mae NTJ yn eu cyflogi ar hyn o bryd. Dywedodd y Cyfarwyddwr Tom Edwards: "Mae fy rhieni wedi treulio'r 15 mlynedd diwethaf yn gweithio'n galed i adeiladu'r busnes, buddsoddi yn y dyfodol a chreu swyddi i bobl leol. Fel teulu, rydyn ni am barhau i ehangu ein gwasanaethau, felly mae'n bwysig bod gennym y swyddfa gywir i ddarparu ar gyfer y twf hwnnw. 

"Fe brynon ni’r swyddfeydd gan wybod y byddai angen cyllid allanol arnom i helpu i ariannu'r gwaith adnewyddu, felly rydyn ni’n ddiolchgar i FW Capital am gamu i’r adwy pan roedd eu hangen nhw arnon ni. Bydd y swyddfeydd newydd yn rhoi hwb i ni i gyd wrth i ni nesáu at y flwyddyn newydd."

Mae Sarah Albrighton yn Swyddog Buddsoddi gyda FW Capital. Dywedodd: “Mae hwn yn fusnes teuluol sefydledig sydd wedi ymrwymo i'r ardal leol. Maen nhw wedi datblygu enw rhagorol ac yn bartner dibynadwy yn y diwydiant felly maen nhw nawr mewn sefyllfa dda i ehangu'r busnes ymhellach.”

Mae Cronfa Fuddsoddi Cymru a gefnogir gan British Business Bank yn gweithredu ledled Cymru ac mae'n cynnwys ystod o opsiynau cyllid gyda benthyciadau o £25,000 i £2m a buddsoddiadau ecwiti hyd at £5m i helpu busnesau bach a chanolig i ddechrau, tyfu neu achub y blaen. Mae BCRS Business Loans yn rheoli benthyciadau llai’r gronfa (£25,000 i £100,000). Mae FW Capital yn gyfrifol am fenthyciadau mwy (£100,000 i £2m) ac mae Foresight yn rheoli cytundebau ecwiti (hyd at £5m). 

Mae Cronfa Fuddsoddi Cymru yn helpu i gynyddu'r cyflenwad a'r amrywiaeth o gyllid cyfnod cynnar trwy ddarparu opsiynau i fusnesau llai na fydden nhw fel arall yn derbyn buddsoddiad o bosib. Mae’r cyllid wedi'i gynllunio i helpu busnesau gyda gweithgareddau gan gynnwys ehangu, arloesi cynhyrchion neu wasanaethau, prosesau newydd, datblygu sgiliau, ac offer cyfalaf.