Cronfa Buddsoddi i Gymru

 

Beth yw Cronfa Buddsoddi i Gymru?

Mae Cronfa Buddsoddi i Gymru yn gronfa fuddsoddi gwerth £130 miliwn, sydd â’r nod o sbarduno twf busnesau bach a chanolig eu maint yng Nghymru.

Mae Cronfa Buddsoddi i Gymru yn un o gyfres o Gronfeydd a adwaenir fel y Nations and Regions Investment Funds sy’n cael eu lansio gan Fanc Busnes Prydain a fydd yn cyflawni ymrwymiad o £1.6 biliwn o gyllid newydd i fusnesau llai ledled y DU.

Bydd Cronfa Buddsoddi i Gymru yn cynnig amrywiaeth o opsiynau cyllid masnachol gyda benthyciadau o £25,000 i £2 filiwn a buddsoddiad ecwiti o hyd at £5 miliwn. Drwy gynyddu cyflenwad ac amrywiaeth cyllid cyfnod cynnar ar gyfer busnesau llai yng Nghymru, ei nod yw mynd i’r afael â’r bwlch cyllido a nodwyd.

Mae FW Capital yn rheoli cronfa £30 miliwn CBC – Cyllid Dyled FW Capital.

Rydym yn darparu benthyciadau rhwng £100,000 a £2 filiwn i helpu busnesau i dyfu. Gellir defnyddio’r cyllid ar gyfer amrywiaeth o anghenion busnes, gan gynnwys:

  • Cyfalaf twf
  • Llogi staff
  • Ehangu i farchnadoedd newydd
  • Datblygu cynhyrchion a gwasanaethau
  • Prynu offer neu beiriannau
  • Prynu, uwchraddio neu ehangu eiddo
  • Pontio i sero net

Mae benthyciadau ar gael rhwng 1 a 5 mlynedd.

 

Gallwn helpu busnesau sydd wedi’u lleoli yng Nghymru ac sydd â’r potensial i dyfu.

Os nad yw eich busnes wedi’i leoli yng Nghymru, ond ei fod naill ai’n fodlon adleoli neu y bydd ganddo bresenoldeb materol yng Nghymru o ganlyniad i’r buddsoddiad, yna dylai hyn fod yn ddigon – gall ein Swyddogion Buddsoddi lleol roi arweiniad pellach ar hyn.

Cyn i chi ddechrau ar eich cais, gwnewch yn siŵr bod eich busnes yn bodloni meini prawf y gronfa.

Gwneud cais Cronfa Buddsoddi i Gymru

I wneud cais am fenthyciad CBC, bydd angen i chi ddarparu'r canlynol i ni:

  • 3 mis o gyfriflenni banc
  • Cyfrifon blynyddol 3 blynedd
  • Cyfrifon rheoli diweddaraf, gan gynnwys Elw & Cholled, Mantolen a Dyledwyr a Chredydwyr Hŷn
  • Datganiad o asedau a rhwymedigaethau personol

Mae’n bosibl y bydd angen rhagor o wybodaeth arnom fel rhan o’ch cais.

 

Angen gwybod mwy yn gyntaf?

Os oes gennych gwestiwn am CBC, anfonwch neges atom neu rhowch gynnig ar ddarllen ein hadran Cwestiynau Cyffredin. Fel arall, os ydych yn barod i wneud cais, gallwch ddechrau yma.